Addasu ac Addurno Telynau
Os hoffech ychwanegu cyffyrddiad personol at eich telyn Telynau Teifi, mae opsiwn i ychwanegu nodweddion addurniadol pwrpasol o waith llaw at bob model (am bris ychwanegol). Gall y rhain gynnwys:
- Peintio neu Byrograffeg Addurniadol
- Cerfio
- Gwaith mewnosod
- Gwydr lliw
Gwneir y gwaith hwn gennym ni yn y gweithdy neu gan artistiaid lleol talentog sy’n cefnogi busnes cymunedol Telynau Teifi. Rydym yn cydgysylltu â’r artistiaid i weithio gyda’ch syniadau a sicrhau bod eich dyluniad fel y dymunwch iddo fod.

Addurno’r Seinfwrdd â Phaent a Phyrograffeg
Mae addurno seinfwrdd telyn yn gais poblogaidd. Gellir defnyddio paent lliw neu ddefnyddio pyrograffeg i losgi’r addurn a chreu dyluniad lliw brown golau. Yr artist talentog lleol, Christine Sheath, o Rydowen sy’n gwneud y ddwy broses hyn.
Mae croeso i chi bori trwy’r oriel ar y chwith i weld rhai o’r dyluniadau y mae cwsmeriaid wedi’u cael ar eu telynau yn y gorffennol.