Eos
Telyn Lifer Geltaidd 36 Tant
“Diolch o galon am y fraint o berchen y fath gampwaith celfyddydol o bren hardd a sain heb ei hail. Roedd plicio unwaith ar y tannau’n ddigon i’m hargyhoeddi mai Eos oedd y delyn i mi – can diolch.”
rita – Yr alban
GWRANDO – adar mân Y mynydd (alaw draddodiadol Gymreig)
GWRANDO – Arpeggios
Dewiswch orffeniad i edrych arno

Gwybodaeth am Delyn Eos
Aderyn yw’r Eos a elwir yn ‘Nightingale’ yn Saesneg.
Man cychwyn y delyn werin 36 tant hon oedd cydweithrediad â thelynor Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fwy na 30 mlynedd yn ôl. Y nod oedd gwneud telyn â sain debyg i sain a chwmpas canol telyn gyngerdd lawn maint. Mae ganddi’r un tensiynau a bylchiad â’r delyn gyngerdd, mae’n ymatebol ac yn creu sain lawn a buddiol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer telynorion ac athrawon yr hoffent gael manteision telyn gyngerdd mewn offeryn gwerin. Mae pob rhan o’r delyn hon wedi’i dylunio a’i gwneud gennym yn ein gweithdy (ac eithrio’r tannau) sy’n golygu y gallwn sicrhau’i bod yn delyn o ansawdd uchel sydd wedi’i hadeiladu i bara.
Liferi Hanner Tôn Teifi
Mae’r delyn Eos yn defnyddio ein Liferi Hanner Tôn Teifi. Mae’r liferi unigryw hyn yn ffrwyth blynyddoedd lawer o ymchwil a datblygu a chânt eu gwneud o bres, alwminiwm a dur caled solet. Fe’u dyluniwyd i roi nodau hanner tôn clir a diffiniedig, nad ydynt yn sylweddol wahanol i nodau ar dannau agored. Mae liferi Teifi yn wahanol i liferi eraill oherwydd bod egwyddor fforchau dwbl y delyn gyngerdd yn sail iddynt, sy’n golygu na fyddant yn treulio’r tannau a’u bod yn creu sain glir a phendant pan fyddant ar waith.
Defnyddiant god lliw, maent yn gweithio’n esmwyth ac yn hawdd eu haddasu ar gyfer traw a thrwch tannau gwahanol. Mae liferi Teifi yn addas hefyd ar gyfer cerddoriaeth jazz oherwydd y symudiad rhwydd y gellir ei ddefnyddio i blygu nodau a chwarae nodau cromatig yn gyflym. Gwneir pinnau tiwnio’r delyn Eos o ditaniwm sy’n golygu na fydd eu gwâr yn cyrydu ac mae’r delyn yn ysgafnach o ganlyniad. Fel cymorth tiwnio, mae ganddynt fand coch ar gyfer ‘C’ a du ar gyfer ‘F’.
Sgrôl Gymreig wedi’i Cherfio
Wrth brynu telyn Eos, cewch ddewis cael sgrôl gerfiedig ar frig crib y delyn (am bris ychwanegol). Mae hwn yn ddyluniad unigryw i delynau o Gymru sy’n deillio o’r Delyn Deires – offeryn a geir yng Nghymru yn unig. Dysgodd Alan Shiers, ein prif saernïwr telynau, gerfio’r rhain pan oedd yn brentis i’r diweddar John Weston Thomas ac mae wedi’u hymgorffori yn y delyn Eos ers hynny.
Nodweddion
- Cwmpas: o C yn yr Wythfed 1af i C yn y 6ed Wythfed
- Tannau â’r un bylchiad a thensiwn â thelyn gyngerdd
- Tannau telyn gyngerdd (tannau coludd a gwifren)
- Wedi’i gwneud o ddeunyddiau a ddewiswyd yn ofalus
- Liferi hanner tôn unigryw Teifi wedi’u ffitio fel mater o drefn
- Ar gael mewn pren collen Ffrengig, pren ceirios, pren onnen, pren ffawydd a gorffeniad brith (cymysgedd o brennau)
- Sgrôl draddodiadol Gymreig ar gael am bris ychwanegol (dewisol)
- Gellir addurno a phersonoli’r delyn am bris ychwanegol hefyd
- Mae standiau ar gael i’w harchebu er mwyn codi’r uchder canu os bydd angen
- Gwasanaeth am ddim am flwyddyn
- Wedi’i gwarantu am bum mlynedd
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Pwysau
|
Tannau
|
Seinfwrdd Pren
|
Uchder
|
Cwmpas
|
Liferi
|
Wedi’i gwarantu am
|
Addurniadau Telyn Pwrpasol
Am bris ychwanegol, mae modd addasu ein holl delynau â gwahanol addurniadau. Gall y rhain gynnwys seinfwrdd â dyluniadau wedi’u paentio, wedi’u llosgi gan ddefnyddio pyrograffeg, wedi’u creu trwy fewnosod pren, gwydr lliw a cherfiadau. Byddwn ni neu artistiaid talentog o’r ardal leol yn gwneud y gwaith hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Prynu neu roi cynnig ar delyn Eos
Gallwch brynu ein telynau ar-lein yn syth o’n siop yma neu roi archeb dros y ffôn neu drwy’r e-bost. Os hoffech roi cynnig ar delyn cyn ei phrynu neu ei llogi, mae croeso i chi ddod i weithdy Telynau Teifi yn Llandysul, neu gallwch ymweld ag un o’n hasiantaethau/stocwyr. Rydym yn cynnig telynau i’w llogi hefyd.
Rhagor o delynau…