Llogi Telynau Telynau Teifi
Gall ei mentro hi a phrynu telyn fod yn gam mawr, yn enwedig i rieni plant sydd ond newydd ddechrau chwarae. Mae ein cynllun llogi telyn yn caniatáu i chi roi cynnig ar un o offerynnau Telynau Teifi heb wneud ymrwymiad ariannol mawr i ddechrau. Mae’n gyfle da hefyd i gael gwybod pa delyn sy’n gweddu orau i chi.
Mae llogi telyn gennym yn ddigon syml:
- Cewch logi telyn am o leiaf 3 mis ond dim mwy na 6 mis
- Mae blaendal o £200 (a gaiff ei ad-dalu os dychwelir y delyn yn ddiddifrod)
Ar ddiwedd y 3 mis cewch ddewis dychwelyd eich telyn, parhau am y tri mis olaf neu brynu eich telyn (neu unrhyw delyn arall gan Telynau Teifi). Os penderfynwch brynu telyn, byddwn yn didynnu 100% o’ch ffioedd llogi a’r blaendal o bris y delyn.
Ar ddiwedd y 6 mis cewch ddewis dychwelyd eich telyn neu’i phrynu. Yn yr achos hwn, byddwn yn didynnu 50% o’ch ffioedd llogi a’ch blaendal cyfan o bris y delyn a brynwch.

Prisiau/Dewisiadau Llogi Telyn
Beth nesaf?
Os oes diddordeb gennych mewn llogi telyn gan Telynau Teifi, defnyddiwch y ffurflen isod neu ffoniwch 01559 363222 i drafod y dewisiadau llogi. Os hoffech roi cynnig ar delyn, gallwch weld yr Asiantaeth Telynau Teifi sydd agosaf atoch ar ein .