Tudalennau Cymorth Telynau Teifi – Cwestiynau Cyffredin
Rydym yn derbyn llawer o gwestiynau – mae rhai yn syml ac eraill yn gallu bod yn fwy cymhleth. I helpu â’r amrywiaeth eang o broblemau y mae telynorion (boed yn ddechreuwyr neu’n delynorion proffesiynol) yn dod ar eu traws, mae gennym gasgliad o ganllawiau a thiwtorialau defnyddiol. Mae pob canllaw yn cynnwys fideo o Allan yn trafod y gwahanol faterion yn ogystal ag eglurhad ar ffurf testun a lluniau.
Os byddwch yn cael problemau o hyd ac yn methu datrys rhyw fater, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni i ofyn cwestiwn.
Canllaw i Ddechreuwyr ynghylch Prynu Telyn
Os byddwch yn prynu telyn am y tro cyntaf, dyma rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol, cynghorion a phethau i chwilio amdanynt.
Telynau Lifer a Thelynau Cyngerdd/Pedal
Pa wahaniaeth sydd rhwng y ddau fath hyn o delyn? Mae tipyn o wahaniaeth! Dewch o hyd i ragor o wybodaeth.
Tiwnio Telyn
Yr holl wybodaeth angenrheidiol ynghylch tiwnio telyn, gan gynnwys defnyddio’r glust a mesurydd digidol.
Adnabod Tannau’r Delyn
Sut y mae adnabod tant, ei drwch, ei fath ac i ba wythfed y mae’n perthyn.
Newid Tant ar Delyn
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghylch newid tant ar delyn.
Clymu Cwlwm Ar Dant Telyn
Canllawiau clir a syml ynghylch sut y mae clymu cwlwm angori ar dant telyn.
Pam y mae tannau’n torri?
Mae hon yn broblem gyffredin i delynorion. Dyma rai achosion ac atebion posibl.
Tiwnio Telyn Lifer i E Fflat (Eb)
Tiwtorial a chanllaw defnyddiol ar diwnio telyn lifer neu delyn Geltaidd i chwarae yn E fflat (Eb) a defnyddio rhagor o gyweirnodau.
Gofalu am Delyn
Mae telyn am oes ac nid ar gyfer y Nadolig yn unig. Gwybodaeth hanfodol, awgrymiadau a chynghorion ynghylch gofalu am eich telyn.
Pinnau Tiwnio Trafferthus
Weithiau, bydd pinnau tiwnio’n mynd yn sownd neu’n dod yn rhydd. Dyma rai datrysiadau posibl.
Mwyhau telyn
Canllaw ynghylch mwyhau telyn fyw, gan gynnwys cyngor ynghylch cipynnau a mwyhad.
Siartiau Tannau
Siartiau tannau ar gyfer pob un o fodelau telyn Telynau Teifi, gan gynnwys modelau hŷn fel y delyn Robyn.